Cwmni Cyfieithu
Gwasanaeth cyfieithu proffesiynol o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg. Mae Cyfieithu Cymunedol yn ymfalchïo yn ei chyfieithu naturiol a'i gwasanaeth cyfeillgar. Ein nod wrth gyfieithu testun ydi llunio dogfen sy'n darllen fel darn o Gymraeg gwreiddiol yn hytrach na chyfieithiad o ddogfen Saesneg. Ein nod wrth gyfieithu ar y pryd ydi galluogi siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg i gyfarfod â'i gilydd gan ddefnyddio eu hiaith gryfaf mewn awyrgylch rhwydd a didramgwydd.
Cliciwch ar y dolenni uchod i wybod mwy amdanom ni, ein gwasanaethau cyfieithu a'n cyrsiau cyfieithu a gloywi iaith.



